Alfonso Reyes

Bardd, ysgrifwr, awdur straeon byrion, a beirniad llenyddol Sbaeneg o Fecsico oedd Alfonso Reyes Ochoa (17 Mai 188927 Rhagfyr 1959) a fu hefyd yn ddiplomydd ac addysgwr. Ystyrir yn un o awduron ac ysgolheigion llenyddol goreuaf Mecsico yn yr 20g, ac yn ffigur pwysig yn llên America Ladin yn gyffredinol. Meddai Jorge Luis Borges amdano, "Reyes heddiw ydy'r prif ''hombre de letras'' yn ein America. Ni ddywedaf y prif ysgrifwr, y prif storïwr, na'r prif fardd; dywedaf y prif ''hombre de letras'', hynny yw y prif lenor a'r prif ddarllenwr [...] gyfaill i Montaigne, i Goethe, i Stevenson, ac i Homeros, ni ellir cymharu dim â natur agored ei ysbryd". Darparwyd gan Wikipedia